MAE pwysau sylweddol ar wasanaethau gofal cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin yn sgil Covid-19.
Mae cartrefi gofal preifat a chartrefi gofal y cyngor ar draws y sir yn brwydro yn erbyn effaith y feirws ar bobl sy’n agored i niwed y mae angen gofal arnynt, gyda gweithlu llai wrth i nifer fawr o ofalwyr gael eu gorfodi i hunanynysu.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn annog pobl i gefnogi eu hymdrechion i ofalu am y bobl fwyaf agored i niwed drwy wrando ar gyngor Llywodraeth Cymru i aros gartref a helpu i arafu lledaeniad Covid-19 yn ein cymunedau.
Ar hyn o bryd, mae 34 o gartrefi gofal yn Sir Gaerfyrddin gydag achosion Covid-19, neu’n methu â chymryd lleoliadau wrth iddynt adfer ar ôl cael achosion.
Mae Covid-19 yn cael effaith mor ddifrifol ar ddeg cartref gofal fel bod y cyngor wedi gorfod cymryd camau i ddarparu cymorth a staffio ychwanegol – mewn un achos roedd rhaid rheoli cartref dros dro gan nad oedd staff na rheolwyr yn gallu gweithio.
Mae prinder staff hefyd yn effeithio ar ofal cartref, gan fod llawer o ofalwyr yn methu â gweithio gan fod yn rhaid iddynt hunanynysu, i’r fath raddau fel mai dim ond gofal hanfodol y gall yr awdurdod ei ddarparu ar hyn o bryd.
Dywedodd Jake Morgan, Cyfarwyddwr Cymunedau y Cyngor, fod gwasanaethau gofal cymdeithasol yn wynebu heriau sylweddol.
“Dros yr wythnosau diwethaf mae gofal cymdeithasol wedi bod o dan bwysau sylweddol i gynnal gwasanaethau hanfodol,” meddai. “Yr her sylweddol i lawer o gartrefi yw cynnal lefelau staffio diogel ac rydym yn darparu gwasanaethau a staff yn uniongyrchol i gefnogi nifer o gartrefi yn y sir.“Mae amrywiaeth o gynlluniau wrth gefn yr ydym wedi’u rhoi ar waith i leihau’r risg dros yr wythnosau nesaf ac rwy’n falch bod y mwyafrif o gleientiaid sy’n dal Covid-19 yn gallu gwella’n llwyr drwy ymdrechion ein staff gofal ac iechyd ymroddedig.“Mae staff ar draws gofal cymdeithasol yn mynd y tu hwnt i’r hyn y gellid ei ddisgwyl ganddynt i gefnogi a diogelu pobl sy’n agored i niwed, ac rwyf am ddiolch iddynt yn bersonol am eu hymrwymiad parhaus.”
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y byddai’r risgiau’n parhau’n uchel nes i’r brechlyn gael ei gyflwyno ar gyfer defnyddwyr agored i niwed a staff gofal, ac anogodd bobl i chwarae rhan yn yr ymdrechion i ddiogelu’r rhai mwyaf agored i niwed.
“Mae risgiau wedi bod yn uchel ar draws y sector dros y Nadolig a byddant yn parhau felly hyd nes y bydd y brechlyn wedi’i gyflwyno. Diolch byth, rydym eisoes yn gweld y budd i’r cartrefi gofal hynny a gafodd y brechlyn cyn y Nadolig.“Rydym yn agos at weld y brechlyn yn cael effaith amddiffynnol wirioneddol yn ein cymunedau a byddwn yn gofyn i bawb yn y sir chwarae eu rhan i atal lledaeniad y feirws a rhoi’r cyfle gorau i ni amddiffyn ein pobl fwyaf agored i niwed.”
More Stories
Cyfleusterau newydd ar gyfer babanod gofal arbennig ar y gorwel
Mesurau ychwanegol i amddiffyn cleifion yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili / Additional measures to protect patients at Glangwili General Hospital
Ddiwrnod Canser y Byd – Elusennau Iechyd Hywel Dda yn godi ymwybyddiaeth o ganser