Dysgu am lwyddiant halen môr ar Ynys Môn

Mae Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, wedi ymweld â Halen Môn, un o gynhyrchwyr mwyaf adnabyddus Cymru, sy’n allforio i weddill y byd.
Dechreuwyd Halen Môn gan Alison a David Lea-Wilson ar lannau Afon Menai ar Ynys Môn ym 1996. Mae’r cwmni, sy’n cyflogi mwy nag 20 o staff, bellach yn allforio’i gynnyrch yn fyd-eang i 16 o wledydd.

Mae Halen Môn wedi ennill nifer o Wobrau Great Taste ac mae’n enw bwyd gwarchodedig ers 2014, sy’n golygu bod ei statws ‒ yr unig halen môr sy’n cael ei gynaeafu o Afon Menai rhwng Ynys Môn a thir mawr Gogledd Cymru ‒ yn cael ei ddiogelu o dan y gyfraith.

Dywedodd Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig: “Roedd yn wych cael cwrdd ag Alison a chael fy nhywys o amgylch canolfan y cwmni ar Ynys Môn, ac i ddysgu popeth am sut maen nhw’n mynd ati i redeg eu busnes yn llwyddiannus.

“Mae eu model nhw, sy’n cyflogi pobl leol ag egwyddorion amgylcheddol ac addysgol, ac sydd hefyd yn denu twristiaid i ardal wledig, arfordirol yng Nghymru, wedi rhoi lle inni ar lwyfan y byd ac wedi rhoi enw da inni am ragoriaeth.”

Dywedodd Alison Lea-Wilson MBE, sylfaenydd a Chyfarwyddwr Halen Môn: “Roeddwn i wrth fy modd yn cael y cyfle i gwrdd â Huw Irranca-Davies.

“Mae ei bortffolio’n cwmpasu cymaint o’r hyn y mae Halen Môn yn ceisio’i gyflawni: halen môr o ansawdd uchel sydd â tharddiad pendant ag ymdeimlad cryf o le; mynd ati drwy’r amser i wella’r ffordd rydyn ni’n rheoli adnoddau naturiol; marchnata’n cynnyrch yn y DU a thu hwnt; a gweithio mewn ffordd sensitif yn ein cymuned mewn Ardal o Harddwch Eithriadol.

“Rydyn ni’n cydnabod y cymorth a’r gefnogaeth rydyn ni wedi’u cael oddi wrth Lywodraeth Cymru, ac yn gwerthfawrogi’r ffaith ei bod yn hawdd inni gael gafael ar swyddogion a gweinidogion. Mae hynny’n golygu ein bod yn gallu meithrin perthynas rhyngom ni a’r Senedd.”

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page