MAE Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau, oni bai fod gostyngiad sylweddol yn yr achosion o’r coronafeirws cyn 29 Ionawr – dyddiad yr adolygiad tair wythnos nesaf o’r rheoliadau – bydd myfyrwyr ysgol a choleg yn parhau i ddysgu ar-lein tan hanner tymor mis Chwefror.
Bydd ysgolion yn parhau i sicrhau bod darpariaeth ar y safle i blant gweithwyr critigol yn ogystal â phlant agored i niwed lle bo hynny’n gwbl angenrheidiol. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod plant yn aros gartref lle bynnag y bo modd.
Mae Cymwysterau Cymru hefyd wedi cyhoeddi na fydd cyfnod asesu mewnol y gwanwyn ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch, y bwriadwyd ei gynnal rhwng 22 Chwefror a 23 Ebrill, yn digwydd a bydd trefniadau newydd yn cael eu gwneud.
More Stories
Cyfleusterau newydd ar gyfer babanod gofal arbennig ar y gorwel
Mesurau ychwanegol i amddiffyn cleifion yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili / Additional measures to protect patients at Glangwili General Hospital
Ddiwrnod Canser y Byd – Elusennau Iechyd Hywel Dda yn godi ymwybyddiaeth o ganser